Croeso i

SOUND PROGRESSION

Creu cyfleoedd ym myd cerddoriaeth sy'n ysbrydoli pobl ifanc

GRYMUSO
POBL IFANC

Datblygu hunan-hyder,gwytnwch a sgiliau drwy fynegiant creadigol cadarnhaol

RHAGLENNI
CYNHWYSOL

Amrywiaeth eang o brosiectau cerddoriaeth i bobl o bob gallu a chefndir

GWEITHWYR PROFFESIYNOL
O FYD CERDDORIAETH

Darperir ein gweithgareddau gan dîm o arbenigwyr profiadol o’r diwydiant cerddoriaeth

Amdanom Ni

Mae Sound Progression yn sefydliad yng Nghaerdydd sy’n ymroddedig i wella bywydau plant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai 10-25 oed ac o gefndiroedd amrywiol a/neu economaidd-gymdeithasol difreintiedig.

Rydyn ni’n hybu mynegiant cadarnhaol, grymuso a magu hyder trwy brosiectau cerddoriaeth a rhaglenni hyfforddi sy’n cael eu harwain gan ein cyfranogwyr. Rydyn ni’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc o bob gallu a phrofiad cerddorol – o ddarpar ganwyr, sgwenwyr caneuon, rapwyr a bandiau i beirianwyr a chynhyrchwyr ac unrhyw un sydd eisiau archwilio eu creadigrwydd drwy gerddoriaeth.

Mae ein rhaglenni pwrpasol wedi’u teilwra’n arbennig yn cael eu cefnogi trwy bartneriaeth gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a’u cyflwyno mewn stiwdios cerdd llawn offer mewn canolfannau ieuenctid a chymunedol ledled Caerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái, Hyb Llaneirwg, Canolfan Ieuenctid East Moors, Pafiliwn Butetown, Clwb Ieuenctid Llanrhymni, Powerhouse Llanedern ac yng nghanol y ddinas prosiect Grassroots.
+
GRYMUSO POBL IFANC
+
O SESIYNAU
O ADOLYGIADAU FFAFRIOL
+
O ORIAU MENTORA
MIS

Ein Rhaglenni

Agored i Bawb

Cyfle delfrydol i bawb gymryd rhan.
Mae ein gweithdai ‘Agored i Bawb’ yn cynnig sesiynau galw heibio i bobl newydd neu fynychwyr cyson. ‘Sdim ots faint o brofiad sydd gyda chi – mae gyda ni sesiwn i’ch siwtio chi!

Cyrsiau

Os ydych chi’n ddarpar berfformiwr, cynhyrchydd neu’n beirianydd, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar-lein a/neu mewn canolfannau a stiwdios sy’n arwain at gymwysterau a gwobrau achrededig.

Screenshot 2020-05-22 at 21.40.15

Yr Academi

Datblygu ac arddangos talentau ifanc.
Mae ein Academi yn cynnig cyfle i chi greu cerddoriaeth wreiddiol a pherfformio mewn pob math o ddigwyddiadau a gwyliau.



Beth rydyn ni’n ei gynnig

Screenshot 2020-06-04 at 08.03.20

Tîm Ymroddgar

Mae ein rhaglenni’n cael eu cyflwyno gan bobl broffesiynnol o’r diwydiant cerddoriaeth sydd ag amrywiaeth o arbenigeddau a sgiliau penodol. Maent yn bobl hawdd uniaethu â nhw ac yn wynebau cyfarwydd yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

IMG_0180

Stiwdios o’r Radd Flaenaf

Mae’r rhan fwyaf o’n sesiynau’n cael eu cynnal mewn stiwdios recordio proffesiynol sy’n cynnwys desgiau cymysgu, ystafelloedd recordio byw, systemau cynhyrchu cerddoriaeth o’r radd flaenaf ac amrywiaeth o feicroffonau ac offerynnau.

IMG_0751

Cefnogaeth i Bobl Ifanc

Rydyn ni’n hybu lles ac ansawdd bywydau pobl ifanc drwy sicrhau fod ein darpariaeth yn ateb eu gofynion ac yn gyfrwng iddyn nhw ddatblygu eu hunain a gwella eu rhagolygon.

Digwyddiadau Ar y Gorwel

Mae ein tymor newydd yn dechrau ar 16eg Medi 2024 gyda gweithgaredd ar draws saith canolfan gan gynnwys Clwb Ieuenctid Gogledd Trelái; Hyb Llaneirwg; Hyb Powerhouse, Llanedern; Pafiliwn Butetown a Chanolfan Ieuenctid Eastmoors ar nosweithiau Mawrth a Iau ac yn ein canolfan ganolog Grassroots, Llun-Sadwrn 12-4pm. 

Diolch i gefnogaeth barhaus Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ac i Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery; Cyngor Trydydd Sector Caerdydd drwy grant Ffyniant ar y Cyd mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Tŷ Cerdd i ariannu’r prosiect hwn. 

ARDDANGOS TALENTS IFANC - DIGWYDDIADAU I DDOD

Wonderfest yw gŵyl flynyddol PlatFform ar gyfer pobl ifanc 13+ oed, rhieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc i gefnogi eu lles.

Byddwn yn cynnal gweithdai DJ a’r llwyfan cerddoriaeth ieuenctid fel rhan o amserlen orlawn o ddigwyddiadau a gweithdai am ddim rhwng 10am-4pm 

Gŵyl Sain Pontcanna ar 28ain Medi. Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy o gerddoriaeth fyw yng nghanol Pontcanna, yn cynnwys talent newydd Caerdydd, i gyd at achos gwych! Mae’r holl elw yn cefnogi Taith Patagonia 2025 Canolfan Ganser Felindre!

Tocynnau: £10 ymlaen llaw | £5 wrth y drws.  https://bit.ly/4cyYPzX

Rydym yn ymuno ag Anthem Cymru i ddod â sioe gerddoriaeth ieuenctid i chi fel rhan o Ŵyl Gerddoriaeth gyntaf Caerdydd. 

Bydd ein partneriaid hirsefydlog Clwb Ifor Bach yn cynnal y digwyddiad ddydd Mercher 9 Hydref i ddod â sioe gerddoriaeth ieuenctid i chi fel rhan o Ŵyl Gerddoriaeth gyntaf Caerdydd.   

Mae mynediad am ddim! 14+ oed

DIGWYDDIADAU GORFFENNOL YR HAF HWN

Cynhaliodd Sound Progression gyfres o ddigwyddiadau dros yr haf yn arddangos ystod amrywiol o dalentau ifanc a genres cerddorol ac yn cefnogi datblygiad sgiliau a chreu a chynhyrchu cerddoriaeth wreiddiol.

 

Mae’r rhaglen orlawn, sy’n llawn o gerddoriaeth gyffrous, newydd a gwreiddiol, yn cynnig cipolwg i gynulleidfaoedd ar y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr cerddoriaeth i ddod allan o Gymru. Mae’n cynnwys dros 18 o berfformwyr gan artistiaid unigol a bandiau sy’n perfformio ystod amrywiol o genres cerddoriaeth o Indie, Jazz, Hip Hop a Grime.

 

Ymhlith y perfformiadau roedd Clwb Ifor Bach; Gŵyl Ymgolli yn y Tramshed; yr Eglwys Norwyaidd; Gŵyl Blue Lagoon; Gŵyl Cariad Mawr; SouthernSUNdown a Gŵyl y Dyn Gwyrdd. 

 

“Roedd safon pob act gerddorol yn rhyfeddol. Un peth sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin yw eu dawn, eu straeon yn mynegi bywyd o safbwynt person ifanc.” Jessica Perkins ar gyfer canolfannau Xcellence

Sound Progression

Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) yw Sound Progression a gofrestrwyd ym mis Awst 2020.   

Rhif elusen 1190897

Dilynwch Ni ar Gyfryngau Cymdeithasol!


info@soundprogression.co.uk

© Copyright Sound Progression Ltd. All Rights Reserved