Croeso i
SOUND PROGRESSION
Creu cyfleoedd ym myd cerddoriaeth sy'n ysbrydoli pobl ifanc
GRYMUSO
POBL IFANC
Datblygu hunan-hyder,gwytnwch a sgiliau drwy fynegiant creadigol cadarnhaol
RHAGLENNI
CYNHWYSOL
Amrywiaeth eang o brosiectau cerddoriaeth i bobl o bob gallu a chefndir
GWEITHWYR PROFFESIYNOL
O FYD CERDDORIAETH
Darperir ein gweithgareddau gan dîm o arbenigwyr profiadol o’r diwydiant cerddoriaeth
Amdanom Ni
Rydyn ni’n hybu mynegiant cadarnhaol, grymuso a magu hyder trwy brosiectau cerddoriaeth a rhaglenni hyfforddi sy’n cael eu harwain gan ein cyfranogwyr. Rydyn ni’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc o bob gallu a phrofiad cerddorol – o ddarpar ganwyr, sgwenwyr caneuon, rapwyr a bandiau i beirianwyr a chynhyrchwyr ac unrhyw un sydd eisiau archwilio eu creadigrwydd drwy gerddoriaeth.
Gyda chefnogaeth ein partneriaid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Caerdydd rydyn ni’n cynnig rhaglenni pwrpasol wedi’u llunio’n arbennig ar gyfer ein cyfranogwyr. Mae ein gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn stiwdios cerddoriaeth o’r radd flaenaf a chanolfannau ieuenctid a chymunedol ledled Caerdydd gan gynnwys Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelai, Hyb Llaneirwg, Canolfan Ieuenctid East Moors a The Powerhouse yn Llanedern.
Ein Rhaglenni

Agored i Bawb
Cyfle delfrydol i bawb gymryd rhan.
Mae ein gweithdai ‘Agored i Bawb’ yn cynnig sesiynau galw heibio i bobl newydd neu fynychwyr cyson. ‘Sdim ots faint o brofiad sydd gyda chi – mae gyda ni sesiwn i’ch siwtio chi!

Cyrsiau
Os ydych chi’n ddarpar berfformiwr, cynhyrchydd neu’n beirianydd, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar-lein a/neu mewn canolfannau a stiwdios sy’n arwain at gymwysterau a gwobrau achrededig.

Yr Academi
Datblygu ac arddangos talentau ifanc.
Mae ein Academi yn cynnig cyfle i chi greu cerddoriaeth wreiddiol a pherfformio mewn pob math o ddigwyddiadau a gwyliau.
Beth rydyn ni’n ei gynnig

Tîm Ymroddgar
Mae ein rhaglenni’n cael eu cyflwyno gan bobl broffesiynnol o’r diwydiant cerddoriaeth sydd ag amrywiaeth o arbenigeddau a sgiliau penodol. Maent yn bobl hawdd uniaethu â nhw ac yn wynebau cyfarwydd yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Stiwdios o’r Radd Flaenaf
Mae’r rhan fwyaf o’n sesiynau’n cael eu cynnal mewn stiwdios recordio proffesiynol sy’n cynnwys desgiau cymysgu, ystafelloedd recordio byw, systemau cynhyrchu cerddoriaeth o’r radd flaenaf ac amrywiaeth o feicroffonau ac offerynnau.

Cefnogaeth i Bobl Ifanc
Rydyn ni’n hybu lles ac ansawdd bywydau pobl ifanc drwy sicrhau fod ein darpariaeth yn ateb eu gofynion ac yn gyfrwng iddyn nhw ddatblygu eu hunain a gwella eu rhagolygon.
Digwyddiadau Ar y Gorwel

Rhaglen Aros Gartref
Oherwydd cyfyngiadau Covid 19 rydyn ni’n addasu darpariaeth Sound Progression drwy gynnal cyfres o sesiynau am ddim ar Zoom a fydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Tachwedd 2020. Nod y sesiynau yw cynnig amrywiaeth o weithgareddau creadigol i bobl ifanc. Mae croeso i unrhyw un sydd wedi cymryd rhan yn ein gweithgareddauo’r blaen a/neu unrhyw bobl ifanc o Gaerdydd a’r cyffiniau sydd eisiau meithrin y sgiliau a’r wybodaeth i drochi eu hunain ym myd creu a chynhyrchu cerddoriaeth.
Mae’r sesiynau’n cynnwys Peiriannu Cerddoriaeth a chyfres o ganllawiau ‘Sut i….’ ar gyfer gwahanol raglenni a meddalwedd creu cerddoriaeth fel Cubase; Logic; Fruity Loops; Garage Band ac Ableton. Rydyn ni’n cynnig yr adnoddau yma am ddim – drwy becynau meddalwedd safonol am ddim, neu becynau ymestyn am ddim am gyfnod prawf. Rydyn ni hefyd yn cynnal gweithdai ar-lein i ddatblygu’r llais, sgwennu caneuon a/neu rap; canllawiau ‘Sut i..’ ar gyfer datblygu ffrydiau incwm drwy gerddoriaeth; Sesiynau arddangos + Holi ac Ateb gyda DJs; nodiant a theori cerddoriaeth; yn ogystal â gwersi gitâr ac allweddellau.
Mae’r ddarpariaeth yma’n derbyn cefnogaeth hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Cymunedol Cymru a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd drwy Grant Cefnogaeth Argyfwng Lleol C3SC - Covid-19 mewn partneriaeth gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru.
© Hawlfraint Sound Progression Cyf. Diogelir pob hawl | Rhif Cofrestri’r Cwmni: 12041556