Amdanom Ni
Ein Cenhadaeth
Mae Sound Progression yn bodoli i alluogi pobl ifanc i ddewis, creu a chymryd rhan mewn profiadau cerddorol cyffrous a deniadol sy’n cefnogi eu hunan-ddatblygiad ac yn cyfrannu at dyfu diwylliant ieuenctid iach a bywiog yng Nghaerdydd a’r rhanbarth ehangach.
Ein Gweledigaeth
Erbyn 2022 rydyn ni’n gobeithio y bydd Sound Progression yn cael ei gydnabod fel prif hwyluswydd y ddarpariaeth ar gyfer cerddoriaeth boblogaidd i bobl ifanc yn Ne Cymru; yn cynrychioli, sicrhau a hybu rhagoriaeth greadigol a meithrin y genhedlaeth nesaf o grewyr cerddoriaeth.
Ein Pwrpas yw
- canfod, meithrin a grymuso talentau cerddorol ifanc drwy weithio o lawr gwlad i fyny i ddatblygu sîn cerddorol hyderus a chadarn.
- annog mynegiant cadarnhaol a grymuso pobl ifanc trwy brosiectau a arweinir gan y cyfranogwyr, hybu cydweithio a sgiliau arwain cymdeithasol.
- hybu lles ac ansawdd bywyd pobl ifanc drwy sicrhau fod ein darpariaeth gerddorol yn adlewyrchu eu gofynion ac yn gyfrwng i’w hannog i ddatblygu eu hunain a gwella eu rhagolygon.
- dathlu amrywiaeth ddiwylliannol a hybu amgylchedd cynhwysol lle nad oes gwahaniaethu.
Pwy ydyn ni?
Un o’n cryfderau mwyaf yw ein gwaith arloesol gyda phobl ifanc sydd wedi’u dadrithio. Rydyn ni’n targedu pobl ifanc sy’n anodd eu cyrraedd a’u hysgogi i gyfranogi yn y sector diwylliannol. Rydyn ni’n mabwysiadu dull gwaith ieuenctid i alluogi pobl ifanc i fynd i’r afael â’r anfanteision personol, cymdeithasol ac addysgol sy’n eu hwynebu mewn ffordd adeiladol fel y gallant fyw bywydau cadarnhaol, creadigol a chyflawn.
Mae gyda ni dîm canolog o weithwyr profiadol sy’n uchel eu parch yn y diwydiant cerddoriaeth. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth eang a dwfn o sgiliau ategol gan gynnwys sgwennu caneuon, hyfforddi lleisiol, llunio trefniannau cerddorol, cymysgu byw, cynhyrchu electronig a pheiriannu. Maent hefyd yn fentoriaid ieuenctid profiadol sy’n gallu rhannu profiadau a straeon bywyd sy’n ysbrydoli a tharo tant am sut y gwnaethon nhw oresgyn rhwystrau a heriau eu plentyndod drwy ddatblygu eu hangerdd am gerddoriaeth.
Beth rydyn ni’n ei gynnig
Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau ein rhaglen ar gael am ddim i bobl ifanc gan gynnwys amryw o bwyntiau mynediad a llwybrau dilyniant sy’n galluogi a hybu dysgu parhaus a datblygu. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau Agored i Bawb sy’n rhan o ddarpariaeth gwasanaeth ar ôl ysgol y Gwasanaeth Ieuenctid; Academi i ddatblygu talent perfformio; sesiynau ar-lein, ac amrywiaeth o gyrsiau a gweithdai.
Mae’r sesiynau’n amrywio o ddysgu sut i ddefnyddio desgiau sain, meddalwedd ac offer recordio i sgwennu caneuon a rap, hyfforddiant lleisiol a sgiliau perfformio. Rydyn ni’n annog ein cyfranogwyr i arwain y ffordd wrth benderfynnu beth maen nhw eisiau ei greu ac ym mha arddull. Mae aelodau ein tîm yn gweithio fel cyd-grewyr i hwyluso’r broses o wireddu syniadau’r cyfranogwyr a’u helpu i ddysgu sgiliau newydd.
Mae pawb sy’n dod i weithio gyda ni, beth bynnag yw eu gallu neu gefndir cerddorol, yn cael cyfle i arbrofi wrth eu pwysau a theimlo’n ddiogel gan wybod eu bod yn cael eu grymuso i fynegi eu hunain.
© Copyright Sound Progression Ltd. All Rights Reserved